TYFU GYDA'N GILYDD

Alice Brawley

Mae gan Alice brofiad yn y sector cyhoeddus a phreifat ble bu’n rheoli coetir cymunedol yng nghanolbarth yr Alban am y tair blynedd diwethaf ac yn gweithio i gwmni coedwigaeth bach preifat yn canolbwyntio ar greu coetiroedd wrth ffiniau’r Alban. Mae hi’n brofiadol o safbwynt gweithio gyda gwahanol dirfeddianwyr a dylunio a rheoli coetiroedd o safbwynt amgylcheddol a chymdeithasol.

Mae hi’n ymddiddori’n fawr mewn coed a choetiroedd, ac yn frwdfrydig am weld coetiroedd y DU yn cael eu rheoli’n well i bobl, bywyd gwyllt a chynhyrchu lleol. Mae ganddi ddiddordeb mewn datblygu prosiectau ble gellir defnyddio cynhyrchion pren mewn gwahanol ffyrdd, a sut all coetiroedd danio creadigrwydd. Dros y flwyddyn ddiwethaf, bu’n rheoli gwaith adeiladu Coedwig Gerddorol – lle tu allan gydag offerynnau cerdd pren – ac mae hi wrthi’n adeiladu iwrt yn ei hamser sbâr.