TYFU GYDA'N GILYDD

John Mitchell

Mae gan John gefndir amrywiol, yn gweithio ar brosiectau rheoli tir a rheoli amgylcheddol ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat, a’r trydydd sector.

Ac yntau’n arbenigo ac yn ymddiddori’n fawr mewn coed a choetiroedd, mae o wedi ceisio ymestyn ei blentyndod yn chwarae yn y goedwig, a hynny gyda theganau mwy swnllyd a drytach. Mae treulio amser yng nghanol byd natur yn destun cryn hapusrwydd i John, a theimla fod rheidrwydd arno i basio hyn ymlaen a rhoi modd i eraill weld y manteision drostynt eu hunain.