Sustainable Woodland Management AIM L3
- The Green Wood Centre
- 03 Feb 2025 - 05 Feb 2025
I gyd-fynd â’n cyrsiau wyneb yn wyneb o ansawdd uchel, rydym yn awr yn cynnig cyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd trwy ein llwyfan dysgu ar-lein.
Dan arweiniad tiwtoriaid medrus, rydym yn darparu ystod o gyrsiau sy’n hybu’ch iechyd a’ch llesiant, wrth eich cysylltu â choetiroedd a byd natur trwy’r llwyfan hawdd i’w ddefnyddio hwn.
Nid oes cyfyngiadau amser na dyddiadau cau - mae ein cyrsiau ar-lein yn cynnwys cyfres o wersi gyda chwis ar ddiwedd pob adran, a gweithgareddau sy’n eich caniatáu i brofi eich sgiliau newydd.
Dewiswch o blith:
Fforio ar gyfer Iechyd a Llesiant Gwanwyn
Fforio ar gyfer Iechyd a Llesiant Hydref
Crefftau Natur
Mae ein tiwtoriaid yn arbenigo yn eu meysydd, yn frwd i rannu eu gwybodaeth, a’ch helpu chi i ddatblygu. Buddsoddwch yn eich hun, a chychwynnwch ar eich taith ddysgu ar-lein gyda’n cymuned ddysgu ar-lein.
Ymunwch â ni am sesiynau byw untro arbennig ar y llwyfan, sy’n archwilio gwella iechyd a llesiant wrth gysylltu â natur.
Mae’r rhain yn amrywio o raglenni natur a llesiant i grwpiau a sefydliadau arbennig, i hyfforddiant achrededig Ymarferwr Llesiant ym Myd Natur. Dysgwch am ein sesiynau byw ar-lein sydd ar y gweill trwy’r calendar digwyddiadau.