Introduction to Coppicing
- Lag Wood, Hassocks
- 30 Jan 2025
Mae’r astudiaeth hon yn pwyso a mesur pa mor ymarferol fyddai i Ysbyty Cymuned Bro Ddyfi, a leolir ym Miosffer Dyfi yng Nghanolbarth Cymru, integreiddio lles drwy natur ac iechyd awyr agored ochr yn ochr â’i ofal clinigol. Cynhaliwyd yr astudiaeth gan Coed Lleol mewn partneriaeth a’r ymddiriedolaeth ddatblygu leol, Ecodyfi, ac fe’i harweiniwyd gan Grŵp Llywio o randdeiliaid lleol a rhanbarthol allweddol. Cafodd ei hariannu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a’i Phweru gan Codi’r Gwastad/Levelling Up, drwy gyfrwng y Gronfa Ffyniant Gyffredin, dan ofal Cyngor Sir Powys.
Mae’r tirlun polisi yn gwyro fwyfwy at ddulliau mwy cydgysylltiedig ar draws gwahanol sectorau, gan ganolbwyntio ar gynaliadwyedd a dulliau ataliol, gan gynnwys presgripsiynu cymdeithasol, gwyrdd. Daeth yr angen am yr astudiaeth hon i’r amlwg ar ddiwedd y prosiect tair blynedd Trywydd Iach a
oedd yn darparu gweithgareddau awyr agored ar bresgripsiwn yn yr ardal; un o’r argymhellion allweddol oedd meithrin cysylltiadau pellach gydag un lleoliad gofal iechyd er mwyn creu safle i fod yn esiampl i eraill. Roedd yr adborth a gafwyd gan staff yr ysbyty a’r Fforwm Cleifion yn awgrymu bod
yma angen, a hefyd barodrwydd, i fwrw ymlaen â hyn gydag Ysbyty Cymuned Bro Ddyfi.
Mae’r adroddiad hwn yn berthnasol i’r rhanddeiliaid a fu’n rhan o’r astudiaeth hon, y swyddogion penderfynu a’r ymarferwyr yn yr Ysbyty Cymuned, y darparwyr gweithgareddau iechyd awyr agored a’r unigolion a’r sefydliadau sy’n ymwneud yn ehangach â gweithredu modelau gofal iechyd ataliol ac
amgen.
Ymarferoldeb integreiddio iechyd a lles awyr agored yn Ysbyty Cymuned Bro Ddyfi - lawrlwytho