Ein prosiectau » Cysylltu Pobl, Natur a Lleoedd drwy Sgiliau a Hyfforddiant yng Sir Benfro
Cysylltu Pobl, Natur a Lleoedd drwy Sgiliau a Hyfforddiant yng Sir Benfro
Mae’r prosiect ‘Cysylltu Pobl, Natur a Lleoedd drwy Sgiliau a Hyfforddiant yng Sir Benfro’ wedi derbyn £275,706 o gyllid ar gyfer cymorth llesiant drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Bydd ystod eang o brosiectau 6 wythnos, sesiynau blasu untro a chyfleoedd gwirfoddoli, yn ogystal â gwelliannau i goetiroedd ar safleoedd a dargedir.
Ochr yn ochr â’n gweithgareddau iechyd a llesiant gwyrdd, rydym yn parhau i weithio mewn partneriaeth â Fforwm Arfordir Sir Benfro (PCF), i ddarparu rhaglenni presgripsiynu glas gan ddefnyddio’r adnoddau gwych sydd gan Sir Benfro i’w cynnig i’n rhaglenni iechyd awyr agored.
Dysgwch beth sy’n digwydd yn Sir Benfro ar ein tudalen Facebook.