Sustainable Woodland Management AIM L3
- The Green Wood Centre
- 03 Feb 2025 - 05 Feb 2025
Mae’r Prosiect Adfer Mawndiroedd yn adfer ardaloedd o fawndir hanesyddol rhwng Castell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf, yn creu cynefin ar gyfer rhywogaethau prin sy’n diflannu fel llygod y dŵr a’r ehedydd. Mae’n canolbwyntio ar bron i 6700 hectar o dirlun, yn cynnig cyfleoedd newydd i bobl ddarganfod y cyfoeth o dreftadaeth naturiol a diwylliannol mae'r ardal yn ei chynnig.
Mae Coed Lleol yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Castell-nedd Port Talbot i gyflwyno’r prosiect, gyda chyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Edrychwch ar ein map prosiect isod. A ydych chi'n byw yn ardal ein prosiect? Byddem wrth ein bodd pe baech yn cymryd rhan.
Yn ystod Covid-19, rydym wedi bod yn gweithio ar-lein i helpu pobl i gysylltu â natur a choetiroedd adref yn eu hardal leol (cliciwch yma i ddysgu mwy am sut y gallwn ni eich helpu chi). Rydym yn gweithio ar ddychwelyd i'r goedwig yn ddiogel cyn gynted â phosibl. Gwiriwch yn ôl yma ac ar ein tudalen Facebook am ddiweddariadau.
Edrychwch ar ein Tudalen Newyddion am fwy o hanesion Coed Lleol (Small Woods Wales).