Cronfa Trydydd Sector – Castell-nedd Port Talbot
Wedi’i ariannu gan CVS, dyma brosiect bach er mwyn cefnogi oedolion ledled Castell-nedd Port Talbot i ymgysylltu â gweithgareddau coetir er mwyn hybu gwelliannau i’w hiechyd a’u llesiant. Mae’r prosiect yn agored i ystod eang o unigolion ag anghenion corfforol a meddyliol hirdymor, ac i unrhyw un arall sy’n teimlo y gallai treulio amser yn yr awyr agored yn dysgu sgiliau amrywiol newydd fod yn fuddiol iddynt. Mae’r gweithgareddau yn cynnwys crefftau, cysylltu â natur, crefftau coetir ac ymwybyddiaeth ofalgar.