Rheoli Coetiroedd yn Gynaliadwy AIM Lefel 3
Cewch ddysgu am hanfodion sylfaenol ac eang cynhyrchu coetiroedd sy’n gynaliadwy yn amgylcheddol, yn gymdeithasol ac yn economaidd. Cewch brofiad ymarferol a chyfle i drafod datrysiadau i arferion rheolaethol gyda phobl broffesiynol a chyfoedion.
Cyflwynir y cwrs hwn, dros dri diwrnod, gan bobl broffesiynol sy’n brofiadol a brwd. Mae’n ddelfrydol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn coetiroedd neu goedwigaeth, neu sydd eisoes yn gweithio yn y maes. Byddai’n dda cael gwybodaeth flaenorol o natur ac/neu goetiroedd.
Os yw’r gost yn rhy fawr, hoffem glywed gennych chi, cysylltwch â: [email protected]
Mae modd talu mewn rhandaliadau am y cwrs hwn. Os gwelwch yn dda ffoniwch ein swyddfa i drafod: 01952 432769.
Dyddiadau: I'w drefnu
Lleoliad: Canolfan Sgiliau Coetir, LL16 4DT
Pris: £450
Cyfleusterau: Darperir lluniaeth, offer a chyfarpar diogelwch. Mae modd gwersylla am £10 y noson ble cewch gegin, toiled, cawod ac ystafell gyfarfod gynnes.
Bydd y cwrs amrywiol hwn dros dri diwrnod yn edrych ar hanfodion sut i reoli coetiroedd mewn ffyrdd sy’n gynaliadwy yn amgylcheddol, yn economaidd ac yn gymdeithasol. Cyfle dysgu rhyngweithiol gyda gwaith trafod a gweithgareddau ymarferol i’ch cyflwyno i amrywiaeth o goetiroedd, sgiliau a dulliau rheoli.
Cynnwys y cwrs
Egwyddorion cynaliadwyedd a gwytnwch coetiroedd.
Mathau/categorïau o goetiroedd yn y DU.
Strwythur ffisegol coetiroedd.
Goblygiadau cyfreithiol rheoli coetiroedd (a rhai ffynonellau grantiau) sy’n briodol i Gymru.
Effaith plâu ac afiechydon
Sut i ddatblygu amcanion clir ar gyfer rheoli coetiroedd.
Ffyrdd o reoli coetiroedd a’r prif systemau coedamaeth.
Dulliau dewis, cynaeafu ac echdynnu coed (drwy addysgu/asesu ymarferol).
Trawsnewid coed a chynhyrchion posibl o goetiroedd sy’n cael eu rheoli’n gynaliadwy (drwy addysgu/asesu ymarferol).
Achrediad: Lefel 3 efo AIM, yn ddibynnol ar gyflwyno llyfr gwaith cwrs ac asesiad maes cyflawn.
I archebu, ffoniwch 01952 432769 neu e-bostiwch [email protected]
EIN HYFFORDDWYR