Introduction to Coppicing
- Lag Wood, Hassocks
- 30 Jan 2025
Rydym eisiau gwella iechyd a llesiant pobl ledled Cymru drwy weithgareddau sy’n ymwneud â choetiroedd a natur.
Cliciwch i wybod mwy am:
Mae Small Woods yn elusen genedlaethol a chwmni cyfyngedig trwy warrant, gyda rhaglenni coetiroedd yn Lloegr, Cymru a’r Alban. Ffurfiwyd Small Woods yn 1988 yn gorff cenedlaethol ar gyfer coetiroedd bach. Cafwyd cryn lwyddiant mewn rheoli prosiectau Coedwigaeth Gymdeithasol, yn ogystal â phrosiectau i hyrwyddo gwaith rheoli coetiroedd bach mewn ffordd gynaliadwy er budd y gymdeithas, yr amgylchedd a’r economi.
Sefydlwyd Coed Lleol (Small Woods Wales) yn 2002, a magwyd dros bymtheg mlynedd o brofiad yn cynnal gweithgareddau coetir i’r gymuned. Sefydlwyd rhwydwaith cymorth i grwpiau coetir cymunedol sydd bellach yn gorff annibynnol dan yr enw Llais Y Goedwig.
Ers 2010, mae Coed Lleol wedi llwyddo i gynnal gweithgareddau iechyd a lles drwy ein rhaglen Coed Actif Cymru. Erbyn heddiw, mae’r rhaglen hon wedi mynd o nerth i nerth gyda grwpiau ledled Cymru.
Am fwy o wybodaeth, ewch ar ein tudalen Prosiectau.
Mae Coed Lleol wrthi’n cynnal nifer o brosiectau gydag amrywiaeth o wahanol gyllidwyr. Ar hyn o bryd, mae prosiect Coed Actif Cymru yn cael cyllid gan y Gronfa Iach ac Egnïol (Cyngor Chwaraeon Wales) a Chyfoeth Naturiol Cymru. Mae prosiectau eraill yn cael eu cyllido gan Gronfa Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles Llywodraeth Cymru, Rhaglen Datblygu Gwledig a Chronfa Dreftadaeth y Loteri.
Yn y gorffennol, cawsom gyllid gan:
Ar ein Bwrdd Ymgynghorol, mae cynrychiolwyr o gyrff cyhoeddus ac anllywodraethol yn y gymuned, a’r maes iechyd a’r amgylchedd, o bob cwr o Gymru. Mae’r rhain yn cynnwys:
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r Bwrdd Ymgynghorol, cysylltwch â Rheolwr Coed Lleol, Amie Andrews [[email protected]] efo gwybodaeth am eich cefndir a’ch profiad perthnasol. Gwirfoddol yw’r aelodau ar ein Bwrdd Ymgynghorol, ond telir costau i’r rheiny nad ydynt mewn rôl sy’n cael tâl efo’u sefydliad.
Rydym hefyd yn gweithio gydag ystod o sefydliadau atgyfeirio lleol a chenedlaethol ym mhob un o ardaloedd Coed Actif Cymru.