TYFU GYDA'N GILYDD

Coed Taliesin - Diwrnod Agored Hwb Coetir

Image not found

Dydd Sadwrn 2 Rhagfyr

Dewch i archwilio’r strwythurau yng Nghoed Taliesin a dathlu pennod nesaf y coetir hardd hwn!

- Cwrdd â’r adeiladwyr a’r penseiri o'r Woodland Hub

- Rhannu syniadau am y dyfodol

- Dysgu sut i gymryd rhan, gan gynnwys dyddiau gwirfoddoli

- Cawl, diodydd cynnes a byrbrydau Nadoligaidd am ddim!

Dewch draw unrhyw bryd rhwng 12 - 3pm

 Ymhle?

Mae’r coetir wedi’i leoli ychydig i’r de o bentref Taliesin. O ganol Taliesin, teithiwch i’r de ar hyd yr A487, a throwch i’r dde ar y lôn cyn gadael y pentref. Bydd arwyddion clir yn eich cyfeirio at y coetir, sydd ar y chwith.

Noder, nifer cyfyngedig o leoedd parcio sydd ar gael, felly ceisiwch osgoi dod â’ch car os oes modd. Mae’r coetir 0.4 milltir ar droed o bentref Taliesin, ac mae bysiau x28 a T2 yn stopio ger y tro oddi ar yr A487.