Diwrnod Iechyd Gwyllt
Digwyddiad rhad ac am ddim i holl drigolion Ynys Môn a drefnwyd gan Coed Lleol/Small Woods a AHNE Ynys Môn
Rhowch hwb naturiol i’ch llesiant gan ddod i wybod hefyd am sefydliadau sy’n gallu rhoi cymorth i chi deimlo ar eich gorau.
Cymerwch ran mewn gweithgareddau fforio, llwybrau llesiant a bywyd gwyllt, crefftau’r gwyllt, crefftau a gemau naturiol, stondinau rhoi gwybodaeth am iechyd.
Dewch â phicnic ac arian i brynu paned a danteithion a gwisgwch yn addas ar gyfer y tywydd.
Lle
Parc Morglawdd, Caergybi
Pryd
Iau 18 Gorffennaf 2024,11am – 3pm (cyrhaeddwch o 10.30am)
Cysylltwch â Lauren am fwy o wybodaeth
[email protected]
07481 079645