TYFU GYDA'N GILYDD

Rhaglen weithgareddau am ddim dros yr haf ar gyfer teuluoedd sydd â phlant niwrowahanol

Dydd Gwener, 10am -12.30pm | 28 Gorff - 25 Awst 2023

Parc Gwledig Craig Gwladus

Ymunwch â ni dros wyliau’r haf eleni ar gyfer rhaglen lawn o weithgareddau yn yr awyr agored ac ym myd natur. Ar gyfer teuluoedd sydd â phlant sydd un ai â diagnosis o niwrowahaniaeth neu sy’n uniaethu fel bod yn niwrowahanol.

Bydd gweithgareddau yn cynnwys amrywiaeth o grefftau, gemau ac archwiliadau ym myd natur. Caiff adnoddau (megis byrddau stori, teclynnau, lluniau o’r gweithgareddau, a man tawel) eu darparu er mwyn helpu eich teulu i’n cyrraedd yn yr awyr agored.

Nodir: mae’n rhaid i’r plant fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol fydd yn cymryd rhan yn y gweithgareddau gyda’r plentyn. Nid yw’r rhain yn sesiynau i ddanfon eich plant heb oruchwyliaeth!

Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu, neu eisiau rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Katie: [email protected]

07526103376