TYFU GYDA'N GILYDD

Grŵp Cerdded Coedwig Clyne - Gaeaf 2022

 

 

Dydd Llun o 28 Tach, 10yb–12.30yp

Ymunwch â ni ar gyfer chwe thaith gerdded hamddenol dan arweiniad Andrew Price o Dryad Bushcraft. Bydd tair taith gerdded cyn y Nadolig a thair yn y flwyddyn newydd.

Dysgwch ynglŷn â chyfoeth hanes Coedwig Clyne a’r gwahanol blanhigion, ffyngau a choed rydym yn eu gweld ar hyd y ffordd.

Mae’r teithiau cerdded am ddim ond mae archebu lle yn hanfodol

Cysylltwch â Nico Jenkins: [email protected]  m 07902 523567