TYFU GYDA'N GILYDD

Hyfforddiant i Arweinwyr Teithiau Cerdded Iechyd Natur

 

Cwrs hyfforddi undydd RHAD AC AM DDIM. Yn addas i unrhyw un sydd â diddordeb mewn cerdded ac arwain teithiau cerdded o lefel dibrofiad ac uwch, sy’n byw ym Mro Ddyfi a’r cyffiniau.

Dydd Gwener 12 Gorfennaf, Ysbyty Bro Dyfi, Machynlleth

9.30am – 5pm

Dewch i ddarganfod y manteision iechyd a llesiant sy’n perthyn i gerdded ym myd natur.

Cewch ennill gwybodaeth a sgiliau ymarferol o ran cynllunio ac arwain teithiau cerdded er mwyn gwella iechyd meddyliol a chorfforol eich teulu, eich cyfeillion neu eich cymuned leol.

Bydd y cwrs yn cael ei arwain gan Arweinwyr Teithiau Cerdded Iechyd proffesiynol o Coed Lleol, sef arbenigwyr ar iechyd awyr agored ac iechyd seiliedig ar natur.

Ar ôl y diwrnod hyfforddi cyfle i gynllunio ac arwain eich teithiau cerdded eich hun fel gwirfoddolwr, gyda chymorth mentora proffesiynol wyneb yn wyneb.

Mae’r cwrs yn addas i bawb sydd â diddordeb mewn cerdded ac arwain teithiau cerdded, o lefel dechreuwyr i fyny.

Diddordeb? Cysylltwch â Rosie ar 07966071073 neu [email protected]

A yw’r dyddiad yn anghyfleus? Ceir hyfforddiant ar-lein rhad ac am ddim hefyd, y gallwch ei ddilyn wrth eich pwysau.