TYFU GYDA'N GILYDD

 Padlo a Chysylltu

 

 

Bob dydd Sadwrn am chwe wythnos, yn dechrau 22 Mehefin 2024

Rhaglen am ddim i bobl yn Sir Benfro sy’n awyddus i fod yn actif yn yr awyr agored i wella eu llesiant meddyliol a chorfforol.

Ymunwch â Windswept ar gyfer y profiad unigryw hwn sy’n cyfuno antur, dysgu a sgwrsio. Dysgwch sut i badlfyrddio, crwydrwch o gwmpas bae ysblennydd Dale, cysylltwch ag eraill a dysgwch am adfer morwellt yn Sir Benfro.

Am fwy o wybodaeth neu i archebu eich lle, cysylltwch â Matt: [email protected]