TYFU GYDA'N GILYDD

Sesiynau gweithgareddau coetir

Ymunwch â ni y gaeaf yma ar gyfer gweithgareddau ymarferol rheoli a llesiant, megis clirio, casglu sbwriel, plannu coed, gwaith glasgoed a gwneud siarcol, ynghyd â dysgu am rywogaethau lleol.  Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol.

Bydd gan bob sesiwn dân gwersyll a diodydd poeth; mae cymryd rhan yn y gweithgareddau yn ddewisol.

Pryd

Dydd Iau, 10.30am – 2pm

21 Tach 2024–20 Chwe 2025

Lle

Rhodfa Bywyd Gwyllt Townhill (drws nesaf i Gampws Townhill- mynediad ar heol Pant Y Celyn)

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Nico: [email protected]

07481081673