TYFU GYDA'N GILYDD

Gareth, Coed Actif Merthyr Tudful a Chysylltu Pobl a Natur

"Mae Coed Actif Cymru a Chysylltu Pobl a Natur wedi magu fy hyder ar ôl chwalfa ac wedi rhoi meddylfryd rhagweithiol newydd i mi"

Yn 2018 profais chwalfa nerfus; Roeddwn i'n gweithio'n rhy galed ac yn gwthio fy hun yn rhy galed. Roedd cerdded i'r siop leol – tua thair munud i ffwrdd – yn fy achosi i grynu bryd hynny. Pan eisteddais i lawr gartref, roeddwn i mewn dagrau. Doeddwn i ddim yn gallu credu pa mor ddrwg oedd pethau. Collais fy swydd ac nid oeddwn yn siŵr beth oedd yn mynd i ddigwydd nesaf. Fe wnaeth y Ganolfan Waith fy rhoi mewn cysylltiad â Gofal, elusen iechyd meddwl, a chefais wybod am Raglen Coed Actif Cymru a oedd yn cynnal OCN mewn Offer Llaw ar y pryd. Meddyliais y gallai edrych yn dda ar fy CV, felly cytunais i fynd.

Roeddwn wir yn nerfus ar ddiwrnod cyntaf y cwrs - rwy’n meddwl fy mod wedi meddwl “Nid wyf wir eisiau gwneud hyn” ond gwthiais fy hun i’w wneud, ac rwy’n falch fy mod wedi nawr. Mae bod ar y cwrs wedi rhoi hwb mawr i fy hyder ac rwyf wedi gorffen y cwrs gyda hobi newydd yn ogystal â meddylfryd newydd hefyd. Yn hytrach na phoeni am bopeth - rwyf am ‘fynd amdani’ - dyna fo mewn gwirionedd - fy meddylfryd newydd yw ‘mynd amdani!’ Mae ymuno â’r grŵp hwn wedi gwneud imi feddwl nad yw pethau newydd yn ddrwg o reidrwydd - os yw’n rhywbeth nad wyf wedi’i wneud o’r blaen - rwyf am fynd amdani a rhoi cynnig arni.

Rwyf wedi dysgu nifer o sgiliau newydd ar y cwrs Coed Actif a’r grwpiau galw heibio misol sydd hefyd yn cael eu cynnal - diogelwch a defnydd offer llaw, gwaith coed, rwyf wedi gwneud cylchoedd allweddi ac wedi dysgu am fforio. Mae'n therapiwtig mewn gwirionedd, mae rhywbeth yn therapiwtig iawn am dorri darnau o bren yn ddifeddwl i greu rhywbeth. Yn gymdeithasol, mae’n wych i ddod draw a sgwrsio gyda phobl - mae wedi helpu i fagu fy hyfer mewn grŵp. Rwyf wedi gwneud ffrindiau newydd hefyd. Rwyf hefyd wedi dechrau gwirfoddoli ar gyfer Cysylltu Pobl a Natur, sy’n rhaglen sy’n annog y gymuned leol i wella, cynnal a defnyddio gwarchodfeydd natur yn fy ardal leol. Rwyf hyd yn oed wedi siarad gyda thorf o bobl yn y digwyddiad Rhanddeiliaid Coed Actif, rhywbeth nad wyf erioed wedi ei wneud cyn hyn. Cynt, roedd fy lefelau pryder 'drwy'r to', ond sefais i fyny a rhoi araith - roeddwn i'n teimlo mor dda am ei wneud – cefais ryddhad o endorffinau roeddwn i'n falch iawn ohonof fy hun.

Wrth symud ymlaen nawr, rwyf hyd yn oed wedi ystyried efallai chwilio am waith yn y math hwn o faes – bywyd gwyllt a choetiroedd – cynt, roeddwn wedi meddwl mynd yn ôl i'r gwaith yr wyf wedi'i wneud erioed, ond mae'r profiad hwn wedi ehangu fy meddwl ac wedi gwneud i mi ystyried gwaith a allai fod yn fwy boddhaus. Mae'r gwaith rwyf yn ei wneud ar hyn o bryd, gyda Chysylltu Pobl â Natur, yn wirfoddol, ond yr hyn rwyf yn ei gael ohono yw boddhad. Nawr, pan fyddaf yn cerdded drwy’r warchodfa natur, gallaf ddweud, ‘fe wnes i helpu gyda hwnna’. Mae gallu helpu a gadael y tŷ yn wych i mi.

Ers dechrau'r rhaglen coetiroedd Actif rwyf wedi dod o hyd i'r hyder i wneud cymaint o gyrsiau eraill – rwyf wedi hyfforddi i fod yn gynghorydd ac rwy'n gwneud cwrs mentora cyfoedion fel y gallaf helpu pobl gyda'r math o broblemau rwyf wedi'u cael fel gorbryder ac iselder. Rwyf wedi cael profiad o hyn nawr – hoffwn rannu hynny gyda phobl eraill. Mae wedi fy helpu i, ac efallai gall eu helpu nhw hefyd.

Cyrsiau
Coppicing used for RBS flyer jpg

Introduction to Coppicing

  • Lag Wood, Hassocks
  • 30 Jan 2025
For absolute beginners who want to learn the basics of coppicing, this course is an essential introduction to this fundamental skill for woodland management.  more...

Digwyddiadau
SEF7771 2

Members' visit - Old Leys Wood

  • Old Leys Wood, Devon
  • 26 Jan 2025
Walk and talk, woodland surveys and a practical session. Darllen rhagor...