GROWING TOGETHER

Cymunedau’n cydweithio ar brosiect newydd i adfer coedwigoedd glaw Celtaidd lleol

27 Feb 2025

Mae yna brosiect newydd wedi’i gyhoeddi i gysylltu ac adfer coedwigoedd glaw Celtaidd yng Ngwarchodfa Biosffer UNESCO Bro Ddyfi, a fydd yn dod â buddion economaidd a llesiant i’w chymunedau lleol.

Partneriaeth Natur Leol ar y cyd rhwng Awdurdodau Lleol, elusennau, grwpiau cadwraeth a sefydliadau cymunedol yw ‘prosiect Cymunedau Coedwig Law Geltaidd Bïosffer Dyfi’, ac fe’i cynhelir fis Chwefror a Mawrth eleni.

Bydd y prosiect yn archwilio ac yn manteisio ar fuddion amrywiol y ‘Goedwig Genedlaethol Cymru’. Mae’r coedwigoedd glaw Celtaidd lleol yn gartref i fywyd gwyllt prin ac ecosystemau unigryw. Bydd gweithgareddau yn cynnwys archwilio’r coedwigoedd, gwella cynefinoedd, plannu coed a phrysgoedio i gynyddu bioamrywiaeth. Bydd hyfforddiant a phrosesu pren ar y safle yn cyflwyno cyfleoedd economaidd lleol. Bydd cymunedau lleol, gan gynnwys plant ac oedolion bregus, yn cael y cyfle i fynd allan i’r goedwig gyda gweithdai llesiant coetir a thrwy wirfoddoli i wneud gwaith cadwraeth. 

Y gobaith yw y bydd y prosiect hwn yn paratoi’r ffordd ar gyfer partneriaeth weithredol, ehangach yn y tymor hir, gyda gweledigaeth o gydweithredu a fydd o fudd i natur a’r cymunedau lleol am flynyddoedd i ddod.

Ariennir y prosiect hwn gan Gynllun Peilot Tirwedd Coedwig Genedlaethol Cymru Llywodraeth Cymru 2024/2025, a weinyddir gan CGGC. Cynhelir y prosiect drwy Bartneriaeth Natur Leol Ceredigion gyda phartneriaid prosiect sy’n cynnwys Cyngor Sir Ceredigion, Coetir Anian, Coed Lleol / Smallwoods, RSPB Ynyshir, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, a Camu Ymlaen a Gwasanaethau Cymorth Dydd Padarn.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â – Fiona Moran, Cynorthwyydd Bioamrywiaeth, Cyngor Sir Ceredigion, [email protected].