TYFU GYDA'N GILYDD

Weinyddwr Monitro a Gwerthuso

Mae Coed Lleol yn chwilio am Weinyddwr Monitro a Gwerthuso, i gynorthwyo gwaith y Tîm Ymchwil a Gwerthuso.

Bydd y Gweinyddwr Monitro a Gwerthuso'n gweithio gyda'r Cydlynydd Ymchwil a Gwerthuso i sicrhau bod ein llesiant coetir, a phrosiectau coedwigaeth gymdeithasol eraill, yn cael eu monitro a'u gwerthuso'n effeithiol. Yn ddiweddar mae Coed Lleol wedi datblygu ap newydd i'w ddefnyddio gan ei swyddogion prosiect a chyfranogwyr ar ei raglenni, ac yn ei dreialu. Yr ap hwn yw'r rhyngwyneb i gasglu a rheoli data cyfranogwyr.

Yn y swydd hon, byddwch yn ymgymryd â swydd i sicrhau bod yr ap yma'n cael ei gynnal yn ddidrafferth ac yn cysylltu â'r tîm datblygu allanol, wrth i ni fireinio sut mae'n gweithio. Wrth i'r ap gael ei gyflwyno i raglenni newydd, bydd angen i chi hefyd weithio gyda'n system Microsoft 365 flaenorol, gan osod, golygu ac ymateb i ymholiadau ar ein ffurflenni monitro Excel.

Disgrifiad swydd a manyleb person

Ffurlen gais

Dychwelwch eich cais wedi'i gwblhau at: [email protected]

Dyddiad cau: Dydd Llun 20 Mai

Cyfweliadau: Dydd Mercher 29 Mai